GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

100 - Rheoliadau Ysgewyll a Hadau (Diwygiad) (Ymadael â'r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 5 Chwefror 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

12 Chwefror 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 31

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw'n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

 

Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau mân a thechnegol i nifer o Reoliadau'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, sy'n ymwneud â'r rheolau ar fewnforio, cynhyrchu ac ymdrin â hadau ar gyfer eu taenu i'w bwyta gan bobl. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i'r DU gyfan.

 

Mae effaith y Rheoliadau yn gyfyngedig i fynd i'r afael â diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir yn deillio o adael yr UE, er mwyn sicrhau diogelwch parhaus ysgewyll a hadau y bwriedir eu taenu i'w cyflenwi ar farchnad y DU.

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 6 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn nodi bod memorandwm esboniadol Llywodraeth y DU, ym mharagraff 7.3, yn cyfeirio at swyddogaeth adolygu deddfwriaeth sy'n cael ei throsglwyddo o'r Comisiwn Ewropeaidd i Weinidogion Cymru (fel yr awdurdod priodol mewn perthynas â Chymru), ond nid yw'n ymddangos bod y Rheoliadau penodol hyn yn trosglwyddo swyddogaeth o'r fath.

 

Mae’r crynodeb uchod o’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.